Crwydro’r maes 2019

Wythnos arall mewn dinas hollol gymraeg, mewn cae wrth ochr afon Conwy. Theatr bob dydd a nos, ond nid un drama ond  dewis ohonynt. Gormod o ddewis, methu mynd i’r babell len oherwydd darlith diddorol, neu hoff fand yn chwarae. Gorfod ffoi o hen ffrindiau i hegla hi dros y maes i ddigwyddiad arall. Cyfleoedd diri i gwrdd eto ag hen ffrindiau coleg, ffrindiau dref a’r rhai sydd wedi symud o Lanrhywle i Aberlle-arall ers talwm.

Hapus i weld Elwyn, Arwel, Dafydd ac Aled, Bethan a Lynne, Rob a’i griw, Terry a’i esgob, ac ati ac ati yn ysgwydd llaw a’u ffrindiau a gan amlaf yn anghofio enwau newydd diri. Ac eto ond rhywsut yn methu cwrdd a rhai oedd yno yr un amser ond mewn sioeau a llwyfanau gwahanol. Sori Glenys, Kathy, Andrew ac eraill, dyna’r eisteddfod, tan Dregaron efallai.

Ar ôl bod yn ddigon agos i anadlu gwleidyddion a beirdd, selebs ac athletwyr ein cenedl dyma ni yn ôl yn ein cartrefi cyfforddus clyd. Ein bydoedd seisnigaidd beunyddiol, lle aeth pawb, o na bawn hi’n eisteddfod o hyd.  Wedi’r chwistrelliad o wythnos dwys yr Wyl, yr unig fro gymraeg, syrffio ar y syrffed, boddi mewn beirniadaeth a barddoniaeth. Tawelwch fu.

Es i am dro i fynwent Rhiwabon,  am fod eu lleferydd a’u llen ar ben bellach, at feddau mam a thad a thaid Rhiwabon. I osod blodau gwyllt o dir a daear Cymru ar ei fedd. Crwydro ar feysydd Fferm Tatham, hen dir ei deulu, i hel y blodau. Bu farw yng Nghattraeth. Wir yr. Heb na chorn gwlad na chleddyf na choron na chadair na chylch meini . Cymro.

A chysgaf ym mreichiau heno yr un a garaf, a’m cwpan yn llawn.

 

 

 

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

%d bloggers like this: