Aberystwyth a Dwyieithrwydd

Mae dref Aber yn gyfrifol am seisnigo Ceredigion bid siwr. Yno mae cymuned hollol Saesneg a adnewyddir yn flynyddol a gwaed newydd o Loegr, sef y myfyrwyr, saesneg a rhyngwladol. Yno mae’r canran isaf o siaradwyr cymraeg ac ysgolion sydd yn llai cymreigaidd na gweddil y sir.  Mae’n ofynnol dan y drefn academaidd Englandandwales i recriwtio staff o’r byd i gyd ac rhaid i’r cymry brwydro i gael bantustan o fewn y drefn ddominyddol.

Nid fy mod i’n drysu rhwng dref a choleg ond coleg yw Aber i’r rhan fwyaf. Coleg da hefyd yn ol y Times. Coleg a bri rhyngwladol am ei ymchwil hefyd. Pam yr erthygl felly. Darllen “Prom” oedd fy ysgogiad,  y fersiwn cymraeg ohoni, a dysgu am hanes cynfyfyrwyr a staff, rhoddion ac ymchwil ac y Canghellor newydd. (Naw wfft i Carlo – mae hawl gwell ganddo ar y bont Hafren). Braf gweld y byd drwy sbectolau pinc y fersiwn cymraeg a meddwl bod popeth yn ei lle.

Roedd ei henw hi, y ganghellor newydd yno ymhlith y rhoddwyr, da iawn, a gobeithiwn am well croeso ganddi a gwell triniaeth i’r bantustan o fewn y coleg, neuaddau preswyl, undeb cymraeg, a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Gofyn wyf am adfer y cynllun Gradd Allanol, a roddwyd i mi y gyfle i ddod yn rhugl yn fy mamiaith, Gradd a oedd yn sail i Mihangel Morgan a Gwynedd Carey, ac awduron eraill. “Coleg yr ail gyfle” cymraeg oedd y Radd Allanol.

Does dim byd fel hyn yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Does dim byd fel hyn yn y Prifysgol Agored, fel un sy wedi gweithio i’r OU ac astudio modiwlau, roedd hyd yn oed gwneud asesiad yn y gymraeg yn anymarferol. Nid mater o ewyllys da yn unig yw polisi iaith OU Cymru.

“Prom” yw un o lu o gylchgronau y byd dwyieithog sydd ohoni, dwi’n cael rhai e-gylchgronau o Lywodraeth Cymru am addysg ac am ystadegau, cefn gwlad ac ati.  Pethau da ac yn helpu cadw min ar fy nghymraeg, ynglyn a Gwerddon, Barn a’r Pedwar Gwynt.

Dychwelaf i Aber; a phrifysgolion eraill ag Parhau i ddarllen

Advertisements

Teledu, gorfodaeth, darlledu yn y gymraeg.

Prin iawn yw’r pethau gorfodol yn y DU.  Cyfrifiad, Trethu, Rol y Etholwyr ac wrth gwrs y Drwydded Deledu.  Mae’n dipyn o embaras i gyffesu mod i wedi adnewyddu eto, ddoe, tridiau yn hwyr. Nid yr hwyrni ond yr adnewyddu oedd achos yr embaras.

Am fod hyn yn orfodaeth er mwyn gwylio teledu gymraeg neu saesneg dros y blynyddoedd diwetha dwi wedi adnewyddu bob tro a dros y ffon – y llinell gymraeg. tan dwy flynedd yn ol roedd y cymro neu gymraes glan a ym Mryste a atebodd yn siwr i ofyn i mi symud i debyd uniongyrchol.  Saesneg yn unig. Felly gwasanaeth ffôn i mi bob tro.

Am fod fy nyddiad adnewyddu yn syrthio ar ganol nos y Galan 31/12/17 mae linell cymraeg yn brin ei hamserau … Nadolig a’r Galan!  Wrth ddarllen cynllun iaith gymraeg y TVlicencing mae’n fwriad ganddynt i gael ei gwasanaeth arlein yn y gymraeg erbyn Mai 2018. Hwre….? CAWN WELD.

Ym 1982, roedd gan Cymru, Gwlad y Basg a Chatalwnia 1 orsaf radio ac 1 sianel deledu yr un. Yn 2018…. #datganolidarlledu does na ddim gwella yn y gwasanaeth cymraeg er i’r BBC ychwanegu sianeli teledu Farsi, Arabeg a sianeli Radio tramor.

Colli 40% o’i cyllid mai S4C yn ddiweddar. Hen bryd datganoli darlledu i Gymru, sylfaenol i oroesiad “coron aur gymdeithas” yw y cyfryngau torfol. Colli nhw ar raddfa eang yn y 21 ganrif.  Taliesin, Y Faner, Y Cymro ac S4C nesaf….

Diolch i Gymdeithas yr Iaith am gadw’r ymgyrch yn fyw

http://www.cymdeithas.cymru

A3B9252D-9AF9-4711-87C8-25179287A7E5

Dwi newydd ymuno â Clecs – Y llwyfan cyfryngau cymdeithasol i siaradwyr Cymraeg

Dwi newydd ymuno â Clecs – Y llwyfan cyfryngau cymdeithasol newydd ac arbennig i siaradwyr Cymraeg

Credwn fod y Gymraeg yn iaith brydferth sy’n haeddu cael ei chadw’n fyw. Trwy helpu mwy o bobl i gadw mewn cysylltiad yn eu mamiaith, gallwn wneud hyn. Rydym wedi datblygu Clecs i gynorthwyo siaradwyr Cymraeg i gyfathrebu yn eu hiaith eu hunain oherwydd fel Cymry Cymraeg, mae ganddynt hawl i wneud hynny.
Cefnogwch y defnydd o’r Gymraeg ar draws y cyfryngau cymdeithasol drwy gefnogi Clecs

iPhone App
Android App
E-bost cyswllt@clecs.cymru
Gwefan http://www.clecs.cymru/

Sicrhau darpariaeth ddigonol ar gyfer y 21 o blant na chafodd le yn y dosbarth Derbyn ar gyfer Medi 2015

Rhieni yn cyflwyno deiseb i Gyngor Caerdydd
(23-07-2015)

Bydd grŵp Gweithredu dros Rieni Ysgol Gymraeg Nant Caerau yn cyflwyno deiseb i Gyngor Caerdydd heddiw.

Mae 185 o gefnogwyr wedi llofnodi’r ddeiseb, sy’n galw am well buddsoddiad mewn Addysg Gymraeg a chynnydd yn nifer y lleoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yn ardaloedd Trelai a Chaerau i ddiwallu’r galw cynyddol. Bydd y Cynghorydd Peter Bradbury, sy’n cynrychioli ward Trelái, yn derbyn y ddeiseb ar ran y rhieni ac yn ei chyflwyno i’r cyngor.

Sefydlwyd y grŵp i ymgyrchu am well adnoddau a chyfleusterau yn Ysgol Gymraeg Nant Caerau, sef yr unig ysgol gynradd Gymraeg sy’n gwasanaethu’r ardal.

Yn ôl Cyfrifiad 2011 roedd gan Caerau a Threlái boblogaeth gyfunol o 14,603 ac eto dim ond 30 o leoedd cyfrwng Cymraeg sydd ar gael yno.

Meddai Sonia Holmes ar ran grŵp Gweithredu dros Rieni Ysgol Gymraeg Nant Caerau, ” Mae’r ddeiseb hon yn gam pellach yn ein hymgyrch i sicrhau chwarae teg i addysg Gymraeg yn Nhrelái a Chaerau. Mae’r sefyllfa bresennol sy’n wynebu’r ysgol yn dangos yn glir fod y Cyngor wedi methu ymateb yn ddigon rhagweithiol i’r galw cynyddol am addysg Gymraeg yn ein hardal. Rydym yn gobeithio y byddant yn gwrando ar ein pryderon ac yn gweithredu ar fyrder.”

diwedd

Nodiadau
Sefydlwyd y Grŵp Ymgyrchu yn sgil methiant Cyngor Caerdydd i fuddsoddi yn ddigonol yn adeilad Ysgol Natn Caerau – oedd cyn hynny’n gartref i Ysgol Fabanod – er mwyn cwrdd ag anghenion ysgol ar gyfer disgyblion 3-11 mlwydd oed.

Agorwyd yr ysgol yn 2007, yn wreiddiol mewn ystafelloedd dosbarth gwag yn Ysgol Holy Family, Pentrebaen cyn iddynt symud i’r safle presennol yn 2010.

Mae’r ymgyrch wedi ysgrifennu at y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau gan nodi tri phrif faes sy’n peri pryder ac yn ei gwahodd i ymweld â’r ysgol. Mae’r materion amlygwyd fel a ganlyn:
• Sicrhau darpariaeth ddigonol ar gyfer y 21 o blant na chafodd le yn y dosbarth Derbyn ar gyfer Medi 2015
• Unioni’r diffygion presennol yn y cyfleusterau a’r adnoddau sydd ar gael i’r ysgol
• Cynyddu ac ehangu nifer y lleoedd ysgol cyfrwng Cymraeg yn yr ardal leol

Scottish Parliament to take part in Gaelic Twitter day 30/4/15 #gaidhlig

Blog Pàrlamaid na h-Alba

The Scottish Parliament will be taking part in Gaelic Twitter day on Thursday 30 April. 

Twitter Gaelic Language Day

The aim of the day is to encourage the use of Gaelic through social media. Some tweets will be about Gaelic and others in the language.

The Scottish Parliament will be taking part in the day with Gaelic tweets from both our Gaelic account @ParlAlba and our corporate account @ScotParl.

Fourteen of our committees are on Twitter and they will also be taking part in the day, looking at subjects as diverse as social isolation, internationalising Scottish business and fire service reform.

Our Education twitter feed @EducationSP will also be tweeting in Gaelic. Find out the Gaelic names for the visiting schools and learn some education terminology!

Bidh Hayley agus sgioba an fhoghlaim air fad a' tweeteadh sa Ghaidhlig Bidh Hayley agus sgioba an fhoghlaim air fad a’ tweeteadh sa Ghaidhlig

Gaelic Twitter Day presents an opportunity to interact with us in Gaelic, however, don’t forget…

View original post 80 yn rhagor o eiriau

Cymraeg ar Duolingo ymunwch a’r ymgyrch Welsh on Duolingo

https://www.facebook.com/groups/welshduolingo/

It would be great to have Welsh on Duolingo (safle poblogaidd iawn i ymarfer iaith ar gyfer dwsinau o ieithoedd). I am currently studying Welsh at CityLit as we are thinking of moving to Wales in about 5 years time. Having it Duolingo to practise would be fantastic. If there is anything we can do to help your application please let me know.

3 days ago

rmcode 9 8 8 6 6 46
Thanks for the comment. We’ve just set up a Welsh for Duolingo facebook group. Please join and spead the word :- https://www.facebook.com/groups/welshduolingo/

2 days ago

Andrew_Manston 15 11 8 50
Great! I’ll join now! I am going to my Welsh course today so I’ll certainly spread the word!

Ymgyrchu yn cael effaith – dwywaith.

DIolch o Galon Patrick.

Heb bobl fel ti a fi yn cwyno a hymbygio nhw bydd lawer llai o adnoddau ar lein i’r gymraeg.
Darllenais yn y Cymro, tachwedd 2014,  am ddysgwr sy wedi cysylltu yn y Gymraeg i gwmni ‘GeoExpert’ , cael ymateb yn y gymraeg ac wedyn wedi trefnu cael fersiwn Gymraeg (drwy law Comisynydd y Gymraeg) mae fersion o’r ‘ap’  nawr yn cynnwys y Gymraeg ynglyn a 7 iaith ewropeaidd arall. (isod)

I’r gad!

Petroc
To: BBC Cymru Wales Audience Services <audiences.wales@bbc.co.uk>
Subject: Re: Ateb. iPlayer (cyf. CAS-3046329-D94467)
Date: Fri, 5 Dec 2014 16:48:16 +0000

Diolch yn fawr iawn Mr Peredur Jones, dwi’n wrth fy modd wrth weld S4C yn haws nawr yn Llundain drwy’r iPlayer! Anrheg neis iawn am ‘mhenblwydd ddoe.

Fe fydda fi’n pasio ‘mlaen y newyddion da at rai arall o’r Gymru Llundain ‘ma hefyd.

Dymuniadau gorau i bawb yn y BBC Cymru/ S4C.

Patrick

Screen Shot 2014-12-06 at 17.58.52

Irish Act 2015?

Irish Act 2015?

irishgirl
The Welsh Language Acts of 1963, 1993, 2010 have given Welsh a formal equality with English.
The Scottish Gaelic Act 2005 creates a thorough programme to ensure the survival of Scottish Gaelic.
In Northern Ireland the 1998 Good Friday Agreement, 2003 UK ratification of the European Charter for Regional or Minority Languages and Promised UK legislation in the 2006 St Andrews Agreement made Irish language promises which have still not been fulfilled.
Irish became an official language of the EU on 1 January 2007.
It is time to honour the rights of Irish speakers in Northern Ireland regardless of ones political allegiances. The matter should be decided and imposed from Westminster if Stormont continues to block these rights.

Luke George Evans – seren arall i Gymru – rhaid bod rhywbeth yn y dwr.

Luke George Evans  – seren arall i Gymru – rhaid bod rhywbeth yn y dwr. Mae’r acen dal yno  ac yn ei ffilm newydd mae seren rhynglwadol arall o gymro wedi dod i’r byd.  http://www.imdb.com/title/tt0829150/

MV5BNTEyMzAwOTIwNl5BMl5BanBnXkFtZTcwMjA2NzIxOQ@@._V1_SX214_CR0,0,214,317_AL_Fe’i anwyd 15 Ebrill 1979 ym Mhontypool, a’i fagwyd yn Aberbargoed Mab i Yvonne ( neé Lewis) a David Evans. Yn 17 oed symudodd i Gaerdydd cyn symud eto i Lundain i’r London Studio Centre lle y’i hyfforddwyd tan 2000.

Mae Luke wedi serenu yn theatre y West End. Mae’r roliau yn cynnwys:

Apollo yn Clash of the Titans (2010)

Sex & Drugs & Rock & Roll (2010)

Robin Hood (2010), Tamara Drewe (2010)

Blitz (2010), The Three Musketeers (2011)

Ashes (2011)

Immortals (2011)

The Raven (2012).

The Amateur American (2012)

Only God Forgives (2012)

No One Lives (2012).

Ar hyn o bryd mae’n byw yn Shoreditch, Llundain.  Mae ei rol enwocaf yw Dracula, un o ffilmiau mwyaf 2014.

Croeso Nigel – nodyn personol

Nigel wedi dod mas i’r byd ac Heddlu Sir Gaerhirfyn wedi ei erlyn – efallai bydd hyn yn mynd i ddigwydd i unrhyw MP stret sy’n neud pas at ferched hefyd?

O Bell

Blynyddoedd maith yn ol roedd Nigel Evans, AS dros Ddyffryn Ribble, yn was i mi.

Fe ddylwn i egluro’n gloi!

Roeddwn yn drysorydd Undeb y Myfyrwyr, Coleg y Brifysgol Abertawe ac roedd Nigel yn aelod reit effeithiol o’m Pwyllgor Cyllid.

Roedd e’n Dori rhonc pryd hwnnw ac ynteu’n 19 neu 20 oed, ond roedd ganddo hiwmor parod a’r ewyllys i wneud pethe’n hytrach na dweud a dweud a dweud.  Ah gwleidyddiaeth myfyrwyr !!

Roedd’na ambell i ffrae rhyngddyn ni, ond ni fu pethe’n gas erioed.

Yn eironig braidd, roedd y ddau ohonom yn debyg i’w gilydd trwy ein rhywioldeb – ni’n dau yn ymladd ein ffyrdd ein hunain i gael trefn ar bethe personol ac emosiynol.

Mae taith Nigel wedi cyrraedd yr uchelfannau erbyn hyn.

Roedd ei gyhoeddiad yn y papurau dros y Sul ei fod yn hoyw ac yn fodlon ei fyd yn rhywbeth wnaeth godi fy nghalon. 

View original post 26 yn rhagor o eiriau